Cyllid ar gyfer Ymchwil Cydweithredol
Mae Prifysgolion Aberystwyth A Bangor ar hyn o bryd yn cynnig nifer o ysgoloriaethau i gynorthwyo prosiectau ymchwil cydweithredol sy’n gysylltiedig â sefydliadau. Cyflawnir y prosiectau gan raddedigion neu fyfyrwyr ar lefel Uwchraddedig (sy’n gwneud gradd Ymchwil neu Radd Meistr a Ddysgir yn y Brifysgol) ac fe’u datblygir ar y cyd gan oruchwylwyr academaidd a goruchwylwyr y cwmni i gynorthwyo eich amcanion busnes.
Mynediad i Feistr (ATM)
Rhaglen Meistr a Ddysgir yn cynnwys lleoliad gwaith un mis a chyfraniad ‘o fath arall’ gan y cwmni partneriaethol.
Ymwelwch â:http://www.higherskillswales.co.uk/atm
Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS)
Blwyddyn o ymchwil sy’n berthnasol i’ch busnes drwy radd Meistr Ymchwil, gan gynnwys lleoliad un mis mewn cwmni. Rhaid i’r cwmni partneriaethol ddarparu cyfraniadau arian parod a chyfraniadau ‘o fath arall’.
Ymwelwch â: http://www.higherskillswales.co.uk/kess/
Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP)
Bydd person graddedig yn gweithio o fewn eich cwmni ar broject sy’n greiddiol i’ch anghenion chi.
Ymwelwch â: http://www.ktponline.org.uk/
Ariennir ATM a KESS yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) drwy raglen Gydgyfeirio’r Undeb Ewropeaidd a weinyddir gan Lywodraeth Cymru – yn amodol ar feini prawf cymhwysedd.
Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth Uwch
Ar ôl llwyddiant prosiectau’r Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth gwreiddiol ledled y DU mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datblygiad rhaglen ‘Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth Uwch’ i ychwanegu’n fwy at lwyddiant amlwg Cymru ym maes cydweithio rhwng Addysg Uwch a Diwydiant.
Trwy ddatblygu prosiectau tair blynedd, a fydd o safon doethuriaethol, mae arian ar gael i hyrwyddo trosglwyddo gwybodaeth a fydd yn codi enw da Cymru’n uwch byth yn rhyngwladol fel lle ar gyfer ymchwil a datblygu cydweithredol o’r safon uchaf.
Wedi cryfhau’r model PTG hynod o lwyddiannus, bydd Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth Uwch yn gadael i gwmnïau allweddol yng Nghymru, yn enwedig cwmnïau angori a’u cadwyni cyflenwi, gydweithio â phartneriaid rhyngwladol a sefydliadau academaidd tramor trwy ariannu Graddedigion Cyswllt y Partneriaethau i wneud gwaith busnes rhyngwladol.
Mae’r cwmnïau sy’n cymryd rhan mewn Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn elwa hefyd ar y trosglwyddo gwybodaeth uwch sy’n cyflymu perfformiad, hybu arloesedd, a sefydlu sgiliau busnes.
Ceir gwybodaeth bellach am y Partneriaethau yma: Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth Uwch
Cyfleoedd Arall:
Cysylltwch â'n tîm Gwasanaethau i Fusnes:
business@aberbangorstrategicalliance.ac.uk
0800 032 5533